ei meddwl, a chwenychai gael y tŷ iddi ei hun. Pan gafodd hynny, estynnodd bapur ysgrifennu a phen ac inc o'r drôr. Cymerodd ddalen o bapur tê i sgrifennu arno'n gyntaf, rhag spwylio'r papur goreu, ac ysgrifennodd y llythyr yma at Stiward Chwarel y Fenlas:
ANWYL MR. LLOYD,
Mae'n debig y bydd yn rhyfedd gynoch chi gael llythyr gin i o'r fan yma. Fel y gwyddoch chi, ma John a finna i lawr yma ers tua deng mlynadd bellach, ac wedi gneud y'n cartra yn weddol gysurus yma. Imi dorri fy stori'n fyr. Mi gyfarfu John â damwain go fawr nos Sul. Yn yr Hospital y mae o, a phan o'n i yno heddiw, mi ddeydodd y Doctor bod yn rhaid torri 'i goes o i ffwrdd. Profedigaeth fawr, Mr. Lloyd bach. Ond imi ddwad at y pwynt. Dyma fy neges i: Mi hoffwn yn fawr pe baech yn medru gweld ych ffordd yn glir i wneud rhyw le bach go ysgafn iddo yn y chwarel, i "bwyso," neu rwbath felly. Wrth gwrs, mi gai waith ysgafn yn y pwll glo, ond mi liciwn i iddo fo gael gwaith yn y chwarel. Mae gin i reswm neilltuol dros ofyn hynny. 'Rydw i'n gobeithio y daw o drwy'r oparesion yn iawn. Mae'r Doctor yn deyd fod gyno fo siawns go lew wrth ei fod yn ddyn cryf.
Gobeithiaf yn fawr y medrwch chi neud lle bach i John druan.
Yr eiddoch yn ddiolchgar,
ELIN ROBERTS (Pen y Bryn gynt).
Ymhen hanner blwyddyn wedyn gwelid teulu yn troi eu cefnau ar Heol y Mynach ar eu ffordd tua'r stesion. Cerddai'r tad wrth faglau, a rhompiai'r tri phlentyn o