Neidio i'r cynnwys

Tudalen:O Gors y Bryniau.djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwmpas wrth feddwl am "bas" yn y trên.

Wedi cyrraedd y gornel trodd y tad ei olygon yn ôl at ffenestri moelion y tŷ gwag, a gellid ei weld yn sychu deigryn oddiar ei rudd â'i ffunen goch. Ond ni throdd y fam ei golygon yn ôl unwaith, eithr cerddodd ymlaen yn syth. Yn ei chlust yr oedd sŵn dau droed trwm ar y palmant, a hwnnw'n darfod yn y pellter draw.

Mai, 1921.