Neidio i'r cynnwys

Tudalen:O Gors y Bryniau.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ef ei hun a'i lyfrau. A sylw Jane Ifans oedd hwnnw.

Edrychodd yr Athronydd yn syn arni fel petae hi'n ddewin. Yna trodd i edrych ar ei chwaer a eisteddai'n benisel yn y gornel. Yna oddiar ei chwaer at y cymdogesau eraill a eisteddai'n gylch oddi-amgylch y tân. Pa beth oedd ar y merched yma ei eisiau? Ni welsai Ifan erioed mo Meri, ei chwaer, yn cynnwys merched fel hyn i'w thŷ i siarad ac i glebran. Cofiodd. Dyma'r arferiad pan fyddai rhywun farw mewn teulu, bod llawer o bobl yn dyfod i weld y profedigaethus, yn siarad llawer ac yn rhoi rhywbeth. Dyma'r "mynd i ddanfon at y cynhebrwng." A daeth yr hyn a achosodd "danfon" hwn fel pang i galon yr Athronydd. Echdoe, bu Luned, plentyn bach blwydd oed ei chwaer, farw. Ni chymerasai erioed nemor sylw ohoni, heblaw ei bod yno, dyna'r cwbl. Eithr ddoe, teimlodd fod rhyw wacter mawr yn ei fywyd. Collodd ddau lygad glas plentyn bach i befrio arno bob tro'r edrychai dros ymyl ei lyfr. Trwy'r dydd ddoe, a bore heddiw, ceisiai beidio â chodi ei ben oddiar ei lyfr rhag cael y siom a ddilynai hynny. Ond yn awr, caeodd ei lyfr gyda chlep, a dechreuodd synfyfyrio. Dyma un cwestiwn eto i'w ychwanegu