at y cwestiynau eraill a'i blinai. Dywedwyd mai ynddo ef ei hun y canolbwyntiai meddyliau'r Athronydd. Nid yn hollol felly ychwaith. Nid darllen i'w ddifyrru ei hun a wnai, eithr darllen er ceisio dadrys cwestiynau a ddaeth i'w ben ar ôl y ddamwain. Os agorwyd ei ben, agorwyd ei feddwl Ond yntau; a darllenai yn ddiddiwedd. ni chai ateb i'r cwestiynau. Ar y munudau anesmwyth hynny o fethu, cerddai allan bob amser, i edrych a gai atebiad iddynt yn ei feddyliau ef ei hun. Eto, yr oedd cyn dywylled yno ag yn y llyfrau. Yr unig oleuni a gai fyddai goleuni newydd ar gyfynged meddwl dyn. Ceisiodd, o dro i dro, ddadrys y cwestiwn hwn. Pe na byddai marw o gwbl yn y byd, hynny ydyw, pe byddai i bawb fyw am byth, a fyddai yma le i ofn ac i farddoniaeth? Methodd â chael ateb iddo. A dyma un arall a'i blinai: sut y gallodd Meri a llawer Meri arall godi o'i gwely a gwneud ei gwaith, wedi colli ei bachgen hynaf, cannwyll ei llygad, yn y Rhyfel? Paham y bu raid i blant y werin fyned i farw dros achosion brenhinoedd? Paham nad ymladdasent hwy ef eu hunain ar ryw faes fel maes pel-droed ar y cyfandir, a gadael i blant werin fod yn edrychwyr, a gweiddi "hwi hwn," neu "hwi'r llall," yn lle
Tudalen:O Gors y Bryniau.djvu/53
Gwedd