Clywodd Ifan y geiriau, a glynodd y ddau air "twll du" yn ei feddwl am hir iawn. Cerddodd ymlaen ac ymlaen. Ni wyddai i ba le'r âi, ac ni ddaeth i'w feddwl droi'n ôl. Yr oedd arno eisiau cerdded er mwyn cerdded. Yr oedd rhyw ysbryd newydd yn ei waed. Nid oedd ganddo'r un syniad pa amser ar y flwyddyn ydoedd; ond cofiodd fod y plant yn chwarae "london," ac yn y gwanwyn y byddai hynny bob amser. Felly'r arferai ei fam alw tymhorau y flwyddyn. Amser chwarae top, ac amser chwarae trwy'r cortyn a fyddai'r tymhorau iddi hi.
Yn ardal Moel y Fantro, deuai'r gwanwyn yn ddiweddar a'r gaeaf yn gynnar. Byddai caeau gwaelod y plwyf yn eu gwyrdd cyn i gaeau Moel y Fantro ddiosg gwisg y gaeaf. Byddai coed y lle olaf yn noeth, pan wisgai coed lleoedd eraill wisgoedd yr hydref. Pan chwythai'r gwynt o'r môr, yr oedd Moel y Fantro yn nannedd y ddrycin, a chai'r merched gryn drafferth i lanhau heli'r môr oddiar y ffenestri.
Ac eto i gyd, yr oedd yno ryw harddwch na welid mohono'n gyffredin. Bob nos o'u bywyd gwelodd chwarelwyr yr ardal hon yr haul yn machlud dros Fôr Iwerydd neu dros Sir Fôn. Yn yr haf, ei dân yn troi Menai yn waed am hir, ac yn y gaeaf,