Neidio i'r cynnwys

Tudalen:O Gors y Bryniau.djvu/57

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Ia, dwi'n siwr, ma plant yn gneud eu lle yn yr hen fyd yma, petae nhw yma ddim ond am awr."

Aeth Ifan yn ei flaen gan feddwl am ei geiriau. Methai eto â deall deunydd hapusrwydd Catrin Dafydd. Trwy'r gwanwyn a'r haf, byddai'n tynnu grug i'r tyddynwyr i'w roi o dan eu teisi gwair, a'i gario iddynt yn feichiau mewn rhaff ar ei chefn, am chwe cheiniog y baich a chwpaned o dê. Ac eto yr oedd yn hapus.

Toc daeth i ben y bryn ac i dir esmwythach. Teimlai'n ddigon ysgafn i hedeg. Clywai sŵn dŵr yn tincial dros y cerrig fel sŵn chwerthin. Ni allai ddeall paham yr oedd y sŵn yma'n gymorth iddo gerdded. Yn awr ac yn y man clywai fwrlwm dŵr codi wrth iddo daro ei droed ar fwsog, a chodai hynny ei ysbryd. Cerddodd i lawr ochr arall y bryn, ac i fyny un arall, heb flino dim. Wedi cerdded am oriau fel hyn, cyrhaeddodd lecyn gwyrdd esmwyth ar odre crib serth, ac eisteddodd i lawr i fwynhau'r olygfa. Ni allai weled Menai yn awr, dim ond mynyddoedd duon o'i gwmpas ymhobman. Edrychai rhai ohonynt fel petae'r Diafol ei hun wedi cipio darn ohonynt yn ei geg gan mor ysgrythrog oeddynt. Nid yr olwg esmwyth, dawel honno a wna i chwi gysgu oedd arnynt,