Neidio i'r cynnwys

Tudalen:O Gors y Bryniau.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ond yr olwg wyllt a gyfyd ryw hiraeth na wyddoch am beth yn eich enaid. Ni allai'r Athronydd eistedd. Galwai'r mynyddoedd gwyllt hyn arno i fynd yn ôl i setlo'r cwestiynau a'i blinai. Teimlai y gallai wneuthur hynny'n awr. Yr oedd yn dechreu tywyllu erbyn hyn, a chychwynnodd tuag adref. Ond safodd yn stond. Dyma fiwsig yn dyfod o rywle tu ôl iddo—miwsig milwaith melysach na sŵn y grug dan ei draed a sŵn dŵr ar gerrig. Ni allai'r Athronydd gymharu ei sŵn i ddim ond i sŵn meddyliau newydd yn torri ar feddwl awdur. Trodd yn ei ôl a dilynodd y miwsig rhag ei waethaf. Yr oedd yn rhaid iddo ei ddilyn. Dilynodd y sŵn nes dyfod at gornel yn y crib. Heibio i'r gornel ac i lannerch gyffelyb ar yr ochr arall. Yno gwelai ddyn ieuanc yn canu chwibanogl—chwibanogl wedi ei gwneuthur o frwynen cors—a merch ieuanc yn dawnsio i'r miwsig—y miwsig a'i trodd ef yn ôl er gwaethaf y mynyddoedd a'i galwai ymlaen. Dyma'r mab a'r ferch ieuanc harddaf a welsai erioed. Eisteddodd i lawr ar y glaswellt yn fudan llwyr, a daeth rhyw deimlad drosto nad adnabuasai mohono erioed o'r blaen. Am unwaith teimlai'n hapus. Anghofiodd yr hen gwestiynau hynny, a phan ddaethant ar draws ei feddwl fel seren wib, chwarddodd yn