galonnog am iddo fod mor ffôl a meddwl amdanynt erioed. Nid oedd dim yn ei flino. Eisteddai i edrych ar yr olygfa fel dyn yn yfed dedwyddwch. Pa waeth ganddo ef ffordd yr elai'r byd a'i drybini a'i ddioddef? Digon iddo ef oedd ei fod ef ei hun yn ddedwydd y munud hwnnw.
O'i flaen yr oedd dau yn droednoeth goesnoeth heb unrhyw arwydd annwyd na blinder arnynt. Yr oedd lliw eu croen fel plisgyn cneuen yn yr hydref. Yr oedd llygaid y ferch cyn ddued a chysgod Castell y Dre ar Afon Menai noson ddigynnwrf yn yr haf. Yr oedd ei gwallt mor ddu fel y tybiech fod gwawr las arno, a disgynnai dresi ffri" ar ei gwar. Ar ei phen yr oedd darn o "gorn carw,"—y planhigyn bach hwnnw a dyf o gwmpas blodau'r grug,—yn dal ei gwallt fel ractal Elen Luyddawg gynt.
Ond yr hyn a darawai'r Athronydd fwyaf oedd ffurf ei gwddf a'i breichiau. Yr oeddynt yn berffaith. A daeth i'w feddwl cyn lleied o sylw a dalodd beirdd Cymru i ffurf erioed; lliw oedd popeth iddynt hwy, lliw gwddf a gwefus a grudd. Ond dyma harddwch corff a ddaliai i'w gymharu â harddwch meibion a merched Groeg. Am y mab yr oedd ei wallt o wineu gwan yr hydref a'i lygaid o liw môr ar ôl storm.