UN o'r boreau hynny yn yr haf ydoedd, pan fydd edafedd y gwawn yn dew, neu'n hytrach yn deneu ar hyd y perthi, a sŵn traed a siarad chwarelwyr i'w glywed fel sŵn gwenyn yn y pellter agos. Safai Wiliam Gruffydd a'i bwysau ar ddôr fach yr ardd â'i olygon yn edrych ymhell, heb fod yn edrych i unman neilltuol. Yr oedd rhyw olwg hiraethus yn ei lygad; ond, o ran hynny, fel yna'r edrychai Wiliam Gruffydd bob amser. Teimlech ryw ias tosturi yn cerdded eich holl gorff bob tro y byddech yn agos iddo. Y bore hwn edrychai'n fwy hiraethus nag arfer, ac yn rhy synfyfyriol i gymryd sylw o'r chwarelwyr yn codi eu dwylo arno wrth basio.
Yr oedd tair blynedd bellach er pan roddodd oreu i'r chwarel a symud o Fryn y Fawnog i Fodlondeb, o'r tyddyn i'r tŷ moel. Ychydig cyn hynny aethai Guto ei fab i'r Merica, ac efe a ddarbwyllodd ei rieni i symud i'r tŷ moel a gadael y chwarel er mwyn gorffwys tipyn ar ddiwedd eu gyrfa. O'r mis cyntaf wedi iddo gyrraedd gofalodd Guto am anfon pedair punt adref bob mis, a deuent mor rheolaidd a dydd Llun pen mis yn y chwarel. Rhwng yr arian hynny a phensiwn yr hen bobl, gallai