Wiliam a Margiad ei wraig gael popeth yr oedd arnynt ei eisiau. Ond bu Margiad farw ymhen dwy flynedd ar ôl symud; a'i geiriau olaf hi oedd am wartheg a moch ac anifeiliaid felly. A chan na roddir geiriau olaf" o'r natur yna ar gerdyn coffa neb, bu raid gadael ei cherdyn hi heb ei geiriau olaf. Wedyn disgwyliai Wiliam Gruffydd Guto adref o'r Merica. Syniad yr hen ŵr am y wlad tuhwnt i'r Werydd ydoedd, gwlad a digon o aur ynddi, dim ond i chwi fynd yno i'w hel, fel yr aech i Dwyn y Cyll i hel mwyar duon ym mis Medi. Iddo ef, dyna'r rheswm paham y deuai pobl oddiyno mor fuan gyda chotiau a phocedi mawr ac aur yn eu dannedd gosod. Synnai felly na ddeuai Guto'n ôl. Buasai'n well ganddo erbyn hyn weled Guto na chael yr arian bob mis.
Wedi marw Margiad cafodd eneth i gadw'i dŷ, ond ni welai hi na'r tŷ fawr arno o fore hyd nos. Treuliai ei amser a'i bwysau ar ddôr yr ardd neu'n siarad â dynion trwsio'r ffordd. Mewn gair, yr oedd ar goll oddiar y dydd y gadawodd y chwarel. Y mae'n wir bod iddo atgofion melys am Fryn y Fawnog. Ond, chwedl yntau, "Mi fasa ar ddyn hiraeth ar ôl Gehenna petai o wedi bod yno ddigon hir i gynefino yno." Mewn gwirionedd, yr oedd yr