atgofion melys am y tyddyn yn eu cyfyngu eu hunain foch yn marw o'r clwy, a gwartheg yn nychu o'r clwy bustl. Ond wedyn, edrych i Sodom a wnaiff dyn oni bydd ganddo rywle gwell i edrych iddo. A threuliodd Wiliam Gruffydd lawer awr â'i bwysau ar ddôr yr ardd yn edrych i gyfeiriad Bryn y Fawnog. Ac yn niffyg gwell gwaith beirniadai ei olynydd. Oedd, yr oedd gwartheg y tenant newydd yn deneuach na'i eiddo ef gynt. Yr oedd eu hesgyrn allan drwy eu crwyn bron. Ac wedyn, nid oedd fawr o gamp ar ei wair er yr holl basic slag a roddai'r tenant newydd i'w dir.
"Dydw i 'n gweld gyno fo fawr gwell gwair," ebe fo wrth John Jôs y ffordd ryw ddiwrnod, "efo'i holl fagic slag a'i ffansi tail. Mi 'rydw i'n dallt hen dir Bryn y Fawnog 'na i'r dim. Cariwch chi ddigon o dail o'r doman iddo fo, a dawnsiwch dipyn hyd yr hen werglodd yna i gau hôl traed gwarthaig, a fydd raid i chi ddim bod gwilydd o'ch tas wair. Ond am yr hen betha newydd 'ma, John Jôs, welis i 'rioed ddioni ohonyn nhw. Dyna i chi Dic Jôs, Ty'n Mynydd 'rwan, mae o wedi gwario punna ar ryw hen gêr fel yna, ac mi fedra'r gwynt gario'i wair o bob ha. A 'dydw i'n gweld fawr o gamp