Neidio i'r cynnwys

Tudalen:O Gors y Bryniau.djvu/70

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ar laeth i gwarthaig nhw. Mi roth Elin Huws y Fron panad o dê i mi'r diwrnod o'r blaen, efo llefrith Bryn y Fawnog, a wir mi 'roedd o cin lasad ag y medrach chi welad gwaelod y jwg drwyddo fo. Ond fel na, John Jôs, fel 'roedd Elin Huws yn deyd, mi fedar rhai pobol werthu bleinion a'i alw fo'n dical."

Er gwaethaf pob rhyw siarad fel hyn, dal i dyfu'r oedd gwair Bryn y Fawnog, ac nid oedd fawr o wahaniaeth yn y das wair ar ddiwedd yr haf; ni ddaeth esgyrn y gwartheg allan drwy'u crwyn, ac yr oedd Elin Huws yn dal i brynu llefrith yno. Wedyn dyna ardd Bodlondeb. Gallai drin tipyn ar honno i basio'r amser. Ond beth oedd rhyw ddegllath yswâr o ardd i ddyn oedd wedi arfer palu rhydau bwy'i gilydd. Nid oes lle mewn gardd i ddyn felly droi ei draed, a byddai wedi palu rhes cyn bod eisiau poeri ar ei law unwaith arno. Peth go anodd yw i ddyn ei gyfyngu ei hun i ardd wedi arfer efo chae. Lle i ddyn ysgwyd ei draed a'i ddwylo y galwai Wiliam Gruffydd gae. Galwai Williams y gweinidog beth felly'n eangder. "Eangder," ebe'r olaf, gan chwifio'i ddwylo i'r dwyrain ac i'r gorllewin. "Cae," ebe Wiliam Gruffydd, gan luchio tywarchen efo'i raw i'r awyr. Ond am ardd Bodlondeb, yr