Neidio i'r cynnwys

Tudalen:O Gors y Bryniau.djvu/71

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd mwy na hynny o dir yn tyfu'n chwyn ym Mryn y Fawnog.

Yr oedd Wiliam Gruffydd yn ddarllenwr mawr, a meddyliodd wrth adael y chwarel y cai ddigon o amser i ddarllen. Ond ni waeth i chwi heb ddarllen oni chewch rywun i sgwrsio ag ef ynghylch a ddarllenasoch. Buan iawn y canfu'r hen frawd mai'r hyn a roddai flas iddo ar ddarllen oedd cael sgwrsio a dadleu efo Thwm y Ffridd yn y chwarel drannoeth. Bid sicr cai ddadleu yn yr Ysgol Sul hyd yn oed yn awr. Ond yr oedd aelodau'r dosbarth yn hŷn nag ef. Pobl cymdogaeth y pedwar ugain yma oeddynt, ac y mae tuedd mewn pobl o'r oed yna i grwydro. Dyna Wiliam Huws, Tan yr Ogo—byddai rhywbeth yn y wers yn siwr o fynd ag ef i Sir Fôn, sir ei enedigaeth a'r sir y'i magwyd. Ac o Sir Fôn y galwai'r gloch hwynt i'r ddaear ar ddiwedd yr Ysgol. Peth arall, nid oes cymaint amrywiaeth mewn dosbarth Ysgol Sul ag sydd mewn caban bwyta yn y chwarel. Yn y fan honno fe gewch esboniadau dynion na byddant byth yn darllen esboniadau.

Oedd, yr oedd ar Wiliam Gruffydd hiraeth am y chwarel. A'r bore hwn o haf, yr oedd rhywbeth yn yr awyr, yn arogl yr awyr, yn chwythiad yr awel, yn sŵn y