Neidio i'r cynnwys

Tudalen:O Gors y Bryniau.djvu/72

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ffrwd, yn sŵn y chwarelwyr, ym mhopeth, yn debig i ryw fore, neu foreau flynyddoedd yn ôl pan âi yntau gyda'r dyrfa i fyny i Jerusalem ei fyd—y chwarel. Nid rhyfedd ei weled â'i bwysau ar y ddôr mor fore, oblegid cododd bob dydd byth am hanner awr wedi pump, chwarel neu beidio. Ac yn awr ni allai ddioddef gwawdiaith enw ei dŷ ddim rhagor. Bu yn bopeth ond Bodlondeb iddo ef. Yr oedd yn awr yn ugain munud i saith, a gwelai rai olaf y fintai yn mynd. Gwyddai mai hwy oedd yr olaf, oblegid yr oedd Robin Twm Sian yn eu mysg. Penderfynodd fynd i'r chwarel. Bu agos iddo beidio â mynd hyd drannoeth, gan ei bod mor hwyr, er y gellid cerdded yno'n hawdd mewn ugain munud. Arfer Wiliam Gruffydd oedd cychwyn i'r chwarel awr cyn caniad, a threulio'r amser oedd ganddo wrth gefn i orffwys yn y caban. Ond fe aeth dyhead yn drech na'i ysbryd prydlon y tro hwn. Rhedodd i'r tŷ a rhoddodd ei esgidiau hoelion mawr am ei draed, a ffwrdd ag ef ar ôl y chwarelwyr eraill. Yr oeddynt hwy yn colli ar ben yr Allt Goch pan gyrhaeddodd ef ei gwaelod. Wedi cyrraedd y chwarel aeth ar ei union i'w hen le yn y shed. Yno, yn ei le ef, ac yn eistedd ar ei blocyn, yr oedd Wil Wmffra, ei