Neidio i'r cynnwys

Tudalen:O Gors y Bryniau.djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hen bartner. Gwelwodd yr olaf pan welodd Wiliam Gruffydd, ac ni allai ddywedyd gair. Mewn gwirionedd, distawodd popeth yn y shed ond yr injian. Pe deuthai'r hen frawd o fyd arall, ni buasai yno fwy o syndod. Modd bynnag, dyma Jôs, y stiward bach, yno o rywle, ac fe arbedodd iddynt ddywedyd pethau chwithig.

"Hylo'r hen fachgian," ebe Jôs, gan ddodi ei law ar ei ysgwydd. Dyn oedd y stiward bach a allai roddi ei law ar ysgwydd hen ddyn, ac ar ysgwydd plentyn, a dywedyd, "Hylo'r hen fachgian, heb dramgwyddo'r un o'r ddau.

"Hylo'r hen fachgian," ebe Jôs, "Sut ma' i'n dwad? Wedi rhoi tro i edrach amdanom ni?"

"Wel ia, fachgen, wedi blino adra rwsud, ac yn meddwl y liciwn i ddwad yn f'ôl."

"Da iawn, mi chwiliwn ni am rwbath go ysgafn i chi neud."

"Wath gin i am i ysgafn o, 'rydw i 'n ddigon 'tebol."

Pletiodd Jôs ei wefusau. Fe wyddai ya eithaf da fod digon o nerth yng ngewynnau Wiliam Gruffydd eto, i'w roi ymhen un o weithwyr caletaf y gwaith. Ond nid oedd yno le iddo mewn bargen.