"Rhoswch am funud, Wiliam Gruffydd." Ac aeth allan. Yr oedd yn ei ôl mewn eiliad.
"Mi gewch weithio yn lle Dafydd Wiliam Llwyn Drain heiddiw; mae o adra efo'i wair ddyliwn, ac mi gawn weld beth fydd yma at y fory i chi."
Felly bu, ac i'r shed bach a Wiliam Gruffydd. Rhyw ddistaw iawn yr oedd pawb yn y fan honno wedyn, a theimlai nad oedd ar neb eisiau ei weld yn ôl. Ond chwarae teg i'w hen gyfeillion, wedi eu syfrdanu ormod i siarad yr oeddynt. Cafodd sgwrs efo Wil Bach yr Efail pan oedd hwnnw'n myned trwy'r shed heb neges neilltuol, a theimlodd am funud fod yr hen amser wedi dyfod yn ôl.
Daeth awr ginio, a rhuthrodd pawb am y cyntaf i'r caban. Dyna'r munud cyntaf i Wiliam Gruffydd gofio na ddaeth a'i ginio gydag ef.
Ond gwnaed y diffyg hwnnw i fyny ar unwaith. Cafodd ddigon o frechdan gan un, caws gan un arall, a rhoddodd Wil Wmffra ddigon o dê iddo a chaead ei biser i'w yfed. Eithr ni chafodd eistedd yn ei hen le ymhen draw'r caban yn wynebu pawb. Llenwid hwnnw'n awr gan Morgan Owan—dyn oedd yn ddadleuydd mawr yn ei olwg ei hun ac yng ngolwg dynion bach eu hamgyffred