Neidio i'r cynnwys

Tudalen:O Gors y Bryniau.djvu/75

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a'u darllen. Suddodd calon Wiliam Gruffydd wrth weled hwnnw'n ei le ef. Un o'r dynion hynny a siaradai yn —yddol ac mewn —olrwydd oedd Morgan Owan, ac i rai, niwl geiriau mawr oedd niwl dynion mawr.

Nid oedd gan yr hen ŵr lawer o le i eistedd chwaith. Teimlodd hynny gyntaf pan roddodd rhywun hergwd i'w benelin, nes colli ohono'i dê hyd ei ddillad. Gwesgid Wil Bach yntau yn y gongl wrth y drws, a bu agos iddo weiddi, Closiwch i fyny, lads"; pan gofiodd, brathodd ei dafod. Modd bynnag, i Wiliam Gruffydd, yr oedd un yn ormod ar y fainc honno.

"Beth wyt ti'n feddwl o spitsh y Mawr," ebe Dafydd Rolant heb gyfarch neb yn neilltuol.

"Tydw i'n meddwl dim ohoni," ebe Wiliam Gruffydd.

"Sut felly?" ebe Morgan Owan.

"Wel, 'does dim yn dangos yn well na'r spitsh yna i fod o wedi troi i gefn ar y werin."

("Gwrando di ar yr hen Wil Gruff," ebe Wil Bach gydag edmygedd, yng nghlust Dafydd Rolant).

Sut yr ydach chi'n medru deyd hynny?" ebe Morgan Owan gyda phwyslais ar bob llythyren.