Neidio i'r cynnwys

Tudalen:O Gors y Bryniau.djvu/81

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PRYNHAWN Sadwrn ym mis Tachwedd 1917, mewn llety yn Lerpwl. Eisteddai Dic, Ifan, a Wil wrth y bwrdd yn ysgrifennu llythyrau. Eisteddai Wmffra wrth y tân, ei ên ar ei wasgod, a'i ddwylo yn ei bocedi, ei draed dan y gadair a'i lygaid ar ffyn y grât, yn edrych rhyngddynt i'r tân a thrwy'r tân i dŷ bychan mewn pentref bychan yn Sir Gaernarfon. Oddiallan yr oedd mwrllwch Tachwedd, oddimewn cegin lân, cyn laned ag y gadawai mŵg tref a phryfed swrth yr hydref iddi fod. Yr oedd yn gegin eithaf cysurus, mor gysurus ag y gallai llawer o heyrn tân ar aelwyd ei gwneuthur. Yr oedd gan y tân ei hun gryn dipyn o orffennol a pheth dyfodol, ac yn y canol rhwng ei orffennol a'i ddyfodol gwelai Wmffra weledigaethau. Gwelai ei gegin ei hun gartref, heb fod lawn mor dwt â hon, eto cyn dwtied ag y gadawai chwech o blant a dau filgi a thywydd gwlyb iddi fod; dim heyrn o flaen y tân, ond stôl bren isel hir, y gallech ddodi eich traed arni heb ofni clywed pregeth gan eich gwraig, a'ch dau ben glin ar ddannedd y grât. Yr oedd Ann, ei wraig, wrthi'n golchi'r llestri ganol dydd Sadwrn, Robin y plentyn lleiaf yn tynnu yn ei barclod a