"Dim peryg yn y byd," ebe "Wmffra, mi fasa'n haws gin Ann gredu 'mod i wedi marw taswn i yn sgwennu."
"Oes yna âits yn 'angerddol?" gofynnai Wil a ysgrifennai at ei gariad.
"Nag oes," ebe Ifan dan lyfu cas llythyr.
"Oes," ebe Dic.
"Ma hi'n siwr o ddallt be wyt ti'n feddwl pe taet ti'n rhoi pymthaig âits yn'o fo," ebe Wmffra.
"Gin dy fod ti mor siwr," ebe Ifan, tyrd at y bwr' yma a sgwenna at Ann."
"Na 'na i," ebe Wmffra yn yr un dôn ag yr etyb hogyn anufudd ei fam.
"Ma Ann yn siwr o ddallt ma gweithio ar ôl yr oeddwn i'r pnawn yma, ac ma' dyna sydd wedi fy rhwystro i adra heiddiw. Go drapia'r hen weithio ar ôl yna." Poerodd i lygad y tân.
Ar y ffordd haearn yn Lerpwl y gweithiai'r pedwar, a chaent diced rhad i fyned adref efo'r trên bob tair wythnos. Gan fod tair wythnos yn llai na mis, a chan na theimlai Wmffra'n anghysurus bellach wrth gyflwyno'i gyflog i Ann, nid anfonai ei gyflog adref bob wythnos fel y gwnai Dic ac Ifan, eithr cai Ann gyflog tair wythnos bob tro'r âi ef adref, ac ni