thrafferthai'r un o'r ddau i ysgrifennu at ei gilydd yn y cyfamser.
Ni welsai'r un o'r hogiau mo Wmffra'n ysgrifennu erioed. Ond ni ddeuthai'r gwir, na allai efe ysgrifennu o gwbl, erioed ar draws eu meddwl. Ped aethent i'r un ysgol ag ef yn blentyn, efallai y gwybuasent. Nid oedd Wmffra ond rhyw bymtheg ar hugain oed, a dylai dyn pymtheg ar hugain yn 1917 allu ysgrifennu pwt o lythyr, beth bynnag. Gallai Dic ac Ifan, oedd o'r un oed ag ef, wneuthur hynny'n rhugl. Er bod y pedwar yn gweithio yn yr un chwarel cyn y Rhyfel, nid aethent i'r un ysgol yn blant. Gwyddai'r tri arall y gallai Wmffra wneuthur ei gownt ar ben mis cystal â'r un athro a wisgodd sbectol erioed. Ond gallai'r hen William Jôs, a dynnai am ei bedwar ugain, wneuthur ei gownt heb roddi dimai'n ormod ym mhoced cwmni'r gwaith nac yn ei boced ei hun, mewn ffordd a yrrai rifyddwyr yr oes hon i wasgfeuon. Eithr ni ddaeth i'w meddwl erioed osod Wmffra ar yr un tir â hen bobl.
Modd bynnag, ped aethent i Ysgol Pen Ffordd Wen gydag Wmffra, fe wybuasent i bob athro yn yr ysgol honno roddi pob gobaith i fyny am ddysgu i Wmffra ysgrifennu. Ni allasai Gabriel ei