hun wneuthur hynny, a chaniatau bod Wmffra yn yr ysgol bob dydd, a chaniatau bod Gabriel cystal athro ag yw o angel. Ar gyfnodau y deuai Wmffra i'r ysgol, cyfnodau rhwng cyfnodau chwarae triwant. Ni wn yn iawn pa un o'r ddau gyfnod a fyddai'r hwyaf, ond tystiai Eos Twrog, y plisman plant, i Wmffra dreulio mwy o'i amser i eistedd ar dorlan wrth afon Gwylif nag a wnaeth erioed ar feinciau ysgol Pen Ffordd Wen.
"Rwan, tyrd yn dy flaen," ebe Dic, sgwenna at Ann, a phaid â bod mor bengalad. Mi sgwenith Wil y drecsiwn fel coparplât iti."
Meddyliai Dic efallai mai blerwch ysgrifen a gyfrifai am fywyd di-lythyr Wmffra.
"O'r gora," ebe Wmffra, rhag bod yn llai na dyn, a rhoddodd dro cyndyn yn ei gadair. Ysgrifennodd Wil y cyfeiriad ar gas llythyr ac estynnodd bapur a phensel i Wmffra. Wedyn aeth i'r llofft i newid, ac yr oedd y ddau arall yn ddigon call i fyned i ben eu helynt a gadael Wmffra wrtho'i hun i wneuthur y defnydd goreu a allai o'i bensel a'r papur, ac i wneuthur yr hyn a wna llawer wrth ysgrifennu llythyr, sef rhoddi ei enaid ar bapur.