Bore dydd Llun eisteddai Ann gwraig Wmffra wrth y tân, newydd orffen hwylio'r pum plentyn hynaf a'u gyrru i'r ysgol. Yr oedd hynny'n gymaint gorchwyl fel na welai fai arni hi ei hun am gymryd spel cyn gwisgo am Robin, y plentyn ieuengaf, a chwaraeai efo'r gath ar yr aelwyd. Yr oedd arni eisiau tipyn o amser iddi hi ei hun hefyd, i synfyfyrio paham na ddeuthai Wmffra adref nos Sadwrn. Dyma'r tro cyntaf i hyn ddigwydd er pan oedd yn Lerpwl.
Yn sydyn dyma gnoc ar y drws, a neidiodd ei chalon i'w gwddf pan ganfu mai'r postman oedd yno â llythyr iddi hi. Pan welodd farc post Lerpwl, gwelwodd ei hwyneb, a meddyliodd yn sicr i rywbeth ddigwydd i Wmffra. Gwelodd filoedd o bethau yn yr eiliad honno, a'r peth amlycaf o'r cwbl oedd trên yn myned dros Wmffra. Modd bynnag, medrodd agor y llythyr rywfodd, a newidiodd mynegiant ei hwyneb yn hollol. Ni allech ddywedyd beth oedd am ddigwydd. Crychodd ei thalcen, agorodd ei llygaid led y pen, yna daeth cil gwên i gonglau ei genau. Ond y funud nesaf yr oedd yn wylo dros y tŷ. Yn ei llaw yr oedd dalen bapur, ac ar ei chanol, ddarlun eglur wedi ei dynnu efo phensel o filgi yn gafael yng ngwar cwnhingen.