Neidio i'r cynnwys

Tudalen:O Gors y Bryniau.djvu/88

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Nid oedd na gair na llythyren ar y papur dim ond y darlun. Ail chwilotodd y cas, rhag ofn. Na, nid oedd ynddo bwt o ysgrifen. Wylodd y fam yn hir. Methai Robin â deall paham yr wylai. Methai'r fam ei hun â deall paham. Eisteddodd ar y gadair a gollyngodd y papur ar lawr.

Cipiodd Robin y papur, a rhedodd y gath am ei rhyddid a'i heinioes.

Cyn gynted ag y disgynnodd llygaid Robin ar y darlun o'r milgi a'r gwnhingen, gwaeddodd:

"W-w-tada!" a chan dynnu ym marclod ei fam, "Mami, tada w-w-!!"

Mawrth, 1923.