"Mae rhai yn medru bod yn greulon yn ddistaw," ebe Meri Ifans, a mae mwy o dwrw i galyn creulondab pobol erill, a'ch anffawd chi ydi'ch bod chi'n byw yng nghanol rhes."
"Nid creulon ydi Wil," ebe Catrin Owen, mor danbaid ag y gadawai ci natur ddiniwed iddi ei ddywedyd, "ond pryfoclyd."
"Be sy fryntach na phryfocio," ebe Meri Ifans. "Pan fyddwch chi'n meddwl ych bod wedi cael tipyn o ben llinyn ar ych byw, mi erys Wil adra i ddiogi, a chitha'n gorfod troi allan i weithio'r un fath a heiddiw." Gorffennodd ei chwpaned tê gyda grym.
"Ond ddaru Wil 'rioed dwtsiad pen i fys yna i 'run fath ag y bydd Robin Huws drws nesa'n gneud. "
"Wel, a deyd y gwir gonast, mi fasa'n well gin i gael dyn roe bar o lygada duon imi 'rwan ag y man, na chael dyn fydd yn dal her ar hyd bywyd. A chymrwch gyngor gin i, Catrin Owen, trowch y tu min ato fo, a byddwch mor bryfoclyd ag ynta. 'Does dim ymhel â thalu i ddynion yn i coin i hunain."
"Rhaid i mi chychwyn hi adra," ebe Catrin Owen, "yn 'i wely y gadewis i o'r bora, ac mi fydd wedi codi'r stryd acw