Neidio i'r cynnwys

Tudalen:O Gors y Bryniau.djvu/93

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

os nad a i adra i wneud cinio iddo fo; a toes acw fawr o lo yn tŷ chwaith."

"Mi faswn i yn gadal iddo ddiodda tipyn o eisio bwyd ac annwyd," ebe Meri Ifans.

Cododd Catrin Owen a chymerodd yr arian a'r brintan bach o fenyn gogor a roddasai Meri Ifans iddi am gorddi oddiar y bwrdd.

Diwrnod trwm ym mis Medi ydoedd. Tawch ar y môr, a mwg pawb bron â nogio wrth fyned allan drwy'r corn. Yr oedd rhyw drymder annaturiol yn yr awyr, a rhyw ddistawrwydd rhyfedd ymhobman; y distawrwydd hwnnw a deimlir yn y wlad pan fo'r ysgol wedi ail agor ar ôl gwyliau'r haf. Ar ddiwrnod fel hyn, ni byddai Catrin Owen mewn hwyl i ddechreu gweithio yn ei thŷ ei hun, wedi bod yn gweithio yn nhŷ rhywun arall. Ar ddiwrnod ysgafn, pan fyddai'r gwynt yn chwythu, ac yn enwedig oni fyddai Wil gartref, byddai mewn hwyl i ddechreu ar ddiwrnod arall o waith yn ei thŷ ei hun. Teimlai'n ddigalon heddiw, nid am fod ganddi fwy o reswm i fod felly nag arfer. Nid dyma'r tro cyntaf iddi fyned allan i gorddi am fod Wil yng nghanol un o'i ffitiau pryfocio. Gwnaethai hynny lawer gwaith o'r blaen. Gallai rhywun feddwl mai codi ei chalon