Neidio i'r cynnwys

Tudalen:O Gors y Bryniau.djvu/95

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Wil Owen, a Wil Owen yn unig, a gyfleai bob amrywiaeth yn y stryd. Os byddai'n well gan Wil Owen daflu ei chwyn dros ben ei wal i ardd Robin Huws yn lle 'i ardd ei hun, gwnai hynny tra fyddai Robin Huws yn codi rhawiad o datws. Os byddai'n well gan Wil Owen daflu'r wagen dros y domen yn y chwarel na pheidio â gwneuthur hynny, fe wnai petae yno gant o stiwardiaid yn gweiddi arno beidio.

Ond buasai'n well gan Catrin Owen fywyd undonog ei chymdogion na holl amrywiaeth ei bywyd ei hun. Sut y priododd dau mor anhebig sy'n gwestiwn i'r nefoedd ei ateb. Gwnai'r fath ieuo anghymarus i chwi gredu mai yn y nefoedd y gwneir priodasau. Wil wedi ei eni i garped (yn ôl ei feddwl ei hun) ac yn cael teils. Catrin wedi ei geni i deils a heb ddymuno dim byd gwell. Dioddefodd holl bryfocio'i gŵr, nid am fod ganddi ysbryd Cristion, ond am mai Catrin Owen oedd hi, heb ynni o gwbl cyn belled ag yr oedd ei thafod yn y cwestiwn, ond digon o ynni lle'r oedd gwaith tŷ. Weithiau fe âi'r ynni y meddyliasai ei roddi yn ei thafod i'w breichiau. Fe dystiai'r ffordd y sgwriai'r ffustion ar ambell fore Llun wedi cael ffrae â Wil, i hynny'n dda.