Modd bynnag, y bore hwn, wedi clywed Meri Ifans, daeth rhywbeth i'w meddwl na ddeuthai erioed o'r blaen. Gafaelodd yn ei siôl a thynhaodd hi am ei breichiau gyda grym gwraig wedi gwneuthur ei meddwl i fyny.
Wrth fyned i fyny at y rhes dai lle'r oedd yn byw, sylwodd ar eu corn simdde hwy. Yr oedd torchau mawr o fwg yn myned i fyny drwyddo, yn llwyd i ddechreu, ac yna'n bygddu. Dyma un o driciau Wil eto. Gwyddai nad oedd fawr o lo yn y tŷ, a gwyddai nad âi Wil byth i hel priciau. Wrth ddynesu at y tŷ, gwelai ei gŵr yn siarad ag Ann Huws y drws nesaf. Amlwg ar agwedd yr olaf mai ffraeo'r oeddynt. Yr oedd ei llygaid hi'n goleuo mellt, ond edrychai Wil Owen yn ddigyffro hollol, ei ddwylo yn ei bocedi, a'i lygaid yn edrych i rywle rywle, fel pe na bai Ann Huws yno o gwbl. Yr agwedd yma ar Wil Owen a laddai ei gymdogion. Ni fannai dim arno. Chwibanai ef pan fyddai ei gymydog yn maeddu poer yn ei gynddaredd.
"Ydi dy ddillad di yn wynnach na dillad rhywun arall, tybad?" ebe Wil Owen, a deallodd ei wraig mewn munud mai wedi dyfod yno i gwyno'r oedd ei