Neidio i'r cynnwys

Tudalen:O Gors y Bryniau.djvu/97

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

chymdoges ynghylch rhoddi'r simdde ar dân, a'i dillad hithau allan.

Troes Ann Huws ar ei sawdl, gwyddai mai ofer hollol oedd dadleu â charreg admant.

"Mae'n gwilydd bod neb yn gorfod byw yn yr un stryd â dyn fel hyn", ebe hi'n uchel wrthi hi ei hun, heb sylweddoli bod Catrin Owen yn ei hymyl.

"Dyna'r anfantas o fyw mewn rhes," ebe'r olaf, er iddi feddwl dwedyd, "Be tasach chi'n byw yn yr un tŷ ag o."

Heb ragor na hynyna aeth i'r tŷ yn fwy chwyrn nag arfer. Dyna lle'r oedd ei gŵr, erbyn hyn, yn eistedd wrth danllwyth mawr o dân coed, ystyllennod hir yn ymestyn i'r simdde, a'r fflamau yn ymryson ras ar hyd-ddynt.

"Yn lle cest ti'r coed yna?" oedd cwestiwn cyntaf Catrin Owen.

"Coed y gwely ydyn nhw."

"Coed be?"

"Coed y gwely. Tân ydi'r dodrefnyn hardda'n y tŷ. Ia. Tân ydi'r dodrefnyn hardda'n y tŷ," ebe fe, fel ped adroddai ddarn o farddoniaeth.

Pan sylweddolodd Catrin Owen fod ei gwely, ei hunig wely er pan briodasai'i phlant, y gwely a gafodd gan Meri Ifans adeg geni Huw, ei phlentyn hynaf, er nad