oedd ond darn o wely wenscot, wedi mynd i'r tân i borthi nwyd bryfoclyd ei gŵr, suddodd ei chalon i waelod ei bod, ond cofiodd am ei phenderfyniad ar y mynydd.
"Rydw i 'n mynd," ebe hi, fel pe wedi dywedyd hanner ei phenderfyniad o'r blaen.
"I ble?" ebe'i gŵr, heb droi ei ben. "I foddi fy hun," ebe hithau.
"Ma nhw'n deyd ma llyn yr Hafod ydi'r gora at beth felly. Ma mwy o ddyfnjiwn ynddo, ddyliwn," ebe yntau.
Brathodd ei wraig ei thafod, taflodd ei siôl a'i ffedog, a gwisgodd gôt a het. Cychwynnodd tua llyn yr Hafod. Dyma'r llyn yr âi pawb yn yr ardal iddo i roddi pen ar eu heinioes, pan fyddent wedi blino byw, neu'n meddwl eu bod wedi blino byw.
Nid yr un bwriad ag oedd iddi ar y mynydd oedd iddi'n awr. Ar y mynydd, ni feddyliasai am y posibilrwydd y byddai ei hunig wely'n dân coed. Meddwl am dalu Wil "yn ei goin" yr oedd ar y mynydd. Ond yr oedd hyn yn ormod iddi, a'r meddwl cyntaf a ddaeth iddi oedd myned i'w boddi ei hun, heb ystyried beth a olygai hynny. Ond at y llyn yr aeth, a safodd ar ei lan. Ni wyddai fod Wil wedi ei chanlyn o hirbell a'i fod wedi