Neidio i'r cynnwys

Tudalen:O Gors y Bryniau.djvu/99

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

eistedd ar boncan heb fod yn bell i'w gwylio. Bu Catrin rai eiliadau ar lan y llyn heb wybod ei meddwl ei hun, pan glywodd lais ei gŵr yn gweiddi,

"Plymia, Cadi, plymia. Paid â bod ofn. Plymia. Tydi o ddim yn oer."

Syllodd Catrin Owen i waelod y llyn, a gwelodd yno rywbeth na welsai neb o'r rhai a fentrodd blymio, pa beth bynnag a welodd y rheini ar ôl agor eu llygaid mewn byd arall. Fe'i gwelodd hi ei hun yng ngwaelod y llyn hwnnw, mewn brawddeg yn dechreu gyda "phe," ac fe welodd, petai'r "pe" hwnnw'n wir, wên sbeitlyd falch Wil ei gŵr pe dygid ei chorff adref o'r llyn.

Felly, yn lle'i thaflu'i hun i mewn, trodd ar ei sawdl, ac aeth adref.

Ond yr oedd y Diawl ei hun yn ei hwyneb ar ei ffordd adref.

Medi, 1923.