Tudalen:O Law i Law.pdf/107

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gair wrth y plant," oedd y farn y clywswn Ifan Jones yn ei mynegi droeon wrth fy nhad; "dim digon o dân," "byth yn mynd i hwyl," "dim llais gwerth sôn amdano fo," a phethau tebyg a glywid yn aml yn yr ardal. Ond gwyddwn fod fy nhad a'm mam yn meddwl y byd o Mr. Jones, a buasai ef a'm Hewythr Huw yn gyfeillion mawr. Deuai i mewn yn rheolaidd i roi benthyg llyfrau i'm hewythr neu i chwarae ' draughts' neu am sgwrs ag ef. Synnwn, a minnau ond hogyn, fod f'ewythr mor ' hy ' ar y gweinidog wrth ei herio am gêm o'r 'draughts' neu wrth ddadlau ar farddoniaeth neu grefydd. Yn ystod y flwyddyn y bu'n byw hefo ni, darllenai f'ewythr lawer iawn, ac aml y codai ei lygaid o'i lyfr â gwên ar ei wyneb. "Os gwn i be' fydd gan Jones-y- Gweinidog i'w ddeud 'rŵan?"fyddai ei sylw wrth daro ar ryw ymresymiad a ategai ei safbwynt ef ei hun. "Mi ro' 'i draed o yn y fagl y tro yma."

Rhoes Mr. Jones fy llyfr ar ei lin a suddodd yn ôl yn ei gadair, gan blethu ei ddwylo.

"'Rŵan, John, gad imi dy glywed ti'n adrodd."

Sefais innau wrth y bwrdd i adrodd "Y Bradwr." Caeodd Mr. Jones ei lygaid, a gwelwn ef yn nodio'n foddhaus ar ddiwedd pob pennill. Ac wedi imi orffen, gwenodd yn garedig arnaf.

"Wel, wir, 'rwyt ti'n adrodd yn dda, 'machgen i. Mi fydda' i'n licio clywed adroddwr sy'n deall yr hyn mae o'n 'i adrodd, yn rhoi ystyr a synnwyr ym mhob llinell."

"F'ewyrth Huw ddaru fy nysgu i, Mr. Jones. Dyna oedd o'n ddeud hefyd. Dim isio tynnu 'stumia', medda' fo."

"'Roedd 'na athrylith yn D'ewyth' Huw, wel'di. Petai o wedi cael ysgol a choleg fel rhai ohonom ni, John, mi fasai'n un o arweinwyr Cymru, 'machgen i."

"F'ewyrth Huw sy'n iawn felly, Mr. Jones?"

"Yn iawn? "

"Am yr adrodd 'ma. Nid John Lloyd?"

"Wel, yn fy marn fach i, ia, d'ewyth' sydd yn iawn."

"Ydach chi ddim isio imi wneud 'stumia', felly? Rhoi fy llaw ar fy mrest a . . . a phesychu a . . . gweiddi?"

"'Ym mhob pen y mae piniwn', 'machgen i, ac mae gan Mr. John Lloyd hawl i'w farn. 'Fallai fod 'na lawer i'w ddweud dros 'i ffordd o o adrodd; y mae Ioan Llwyd yn