Tudalen:O Law i Law.pdf/111

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

euthum o'r llwyfan yn teimlo imi ddilyn cyfarwyddiadau F'ewythr Huw a Mr. Jones yn bur lwyddiannus.

"Champion, was," meddai Robin Llew wrthyf pan ddychwelais i'm sedd. "Fel'na 'ron inna'n 'i adrodd o — ond imi anghofìo. Dyna dro, yntê? Anghofìo yn y pennill cynta' hefyd! Ond aros di imi gal gafal yn y- Cochyn bach 'na ar 'i ffordd adra heno. Mi ro' i Fradwr iddo fo!" A cheisiodd, â'i ddwrn dan ei drwyn, ddal llygad Arfon Hughes.

Go ddiamynedd oeddym yn gwrando ar gystadleuaeth canu'r piano, ond rhoesom gymeradwyaeth uchel i'r ymgeisydd olaf. Galwyd ar feirniad yr adrodd ymlaen i draddodi ei feirniadaeth, a gallech feddwl oddi wrth ystumiau anesmwyth Robin Llew mai rhyngddo ef ac Arfon Hughes yr oedd y ras. Dywedodd y beirniad i'r gystadleuaeth fod yn un ddiddorol iawn ac iddo roi cyfle i'r gynulleidfa wrando ar ddau fath o adroddwr, un yn fflamychol a dramatig a'r ddau arall yn syml a thawel. Trueni, meddai, i'r ail ymgeisydd anghofìo ac ailadrodd; fe wnaethai hi ei gwaith yn hynod o dda yn y rhagbraw, a phetai wedi adrodd cystal ar y llwyfan, go anodd fyddai iddo ef ddewis y gorau. Y mae'n bur debyg y gorfodid ef i rannu'r wobr. Ni ofynnai'r darn hwn, yn ei dyb ef, am fflamychu a chodi'r llais yn felodramatig; hawliai, yn hytrach, sobrwydd tawel ac onestrwydd diffuant. Ni wyddai Robin Llew beth oedd ystyr geiriau felly, am a wn i, ond casglodd ddigon i sylweddoli na hoffai'r beirniad ddull Arfon Hughes o adrodd y darn. Yr oedd fel cnonyn wrth fy ochr, a chiciai fì i atalnodi pob brawddeg o'r feirniadaeth. A phan gyhoeddodd y beirniad mai'r ymgeisydd olaf oedd y gorau, rhoes y fath gic i'r sedd o'i flaen nes i'r bobl a eisteddai ynddi neidio fel petaent newydd eistedd ar binnau.

Bûm yn adrodd ar ôl hynny bob gaeaf am flynyddoedd yn eisteddfodau'r pentref, ond ni fentrais y tu allan i'r ardal. Yn wir, gan fod eistcddfodau yn Llanarfon yn weddol aml, ni feddyliais am ymgeisio yn unman arall hyd nes i'm tad ac Ifan Môn fy nghymell i fynd tros y mynydd i Lanybwlch ar y prynhawn Sadwm braf hwnnw o wanwyn. Yr oeddwn, bellach, yn llanc tair ar hugain ac yn dipyn gwell adroddwr — diolch i Mr. Jones, y gweinidog — na'r hogyn a