Tudalen:O Law i Law.pdf/112

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gurasai Arfon Hughes ar "Y Bradwr." "Ymson Wolsey" wedi ei gyfieithu gan Anthropos, "Araith Llywelyn," darn o "Ddinistr Jerusalem," a phethau tebyg fuasai'r cerddi amlaf mewn cystadleuaeth am flynyddoedd, ond erbyn hyn, cawn drio fy llaw — neu fy llais, yn hytrach — ar ganeuon gan T. Gwynn Jones a W. J. Gruffydd ac R. Williams Parry. Englynion R. Williams Parry ar ôl Hedd Wyn oedd y testun yn Llanybwlch, a theimlwn yn weddol ffyddiog, gan imi ennill arno ychydig wythnosau cyn hynny mewn eisteddfod yn y Capel Mawr yn Llanarfon.

Cyrhaeddais festri'r capel yn Llanybwlch tua dau, a'r rhagbraw ar ddechrau. Gwelwn fod rhyw ddwsin ohonom yn cystadlu, ond nid adwaenwn un o'r lleill. Eisteddais, braidd yn unig a digyfaill, ar sedd wrth y drws. Yn y pen arall, gyferbyn â mi, safai ysgrifennydd yr eisteddfod, dyn bach ffwdanus a phwysig, a dyrnaid o bapurau yn ei law, ac ymhen ennyd, galwodd enwau'r ymgeiswyr allan mewn llais main, difater, fel siopwr yn cyfrif ei nwyddau. Atebais i'm henw, ac yna collais ddiddordeb yn yr oruchwyliaeth nes clywed y dyn bach yn galw 'John Lloyd.' Nid oedd ateb, a galwodd yr enw drachefn. Galwodd ef y trydydd tro, a chwarddodd pawb wrth i'r drws agor yn sydyn ac i gorwynt o lais fod bron â hyrddio'r dyn bach oddi ar ei draed â'r un gair "YMA." Eisteddodd Ioan Llwyd i lawr i sychu'r chwys oddi ar ei dalcen a chael ei wynt ato. Sylwais ei fod wedi heneiddio cryn dipyn yn ddiweddar, a bod y cnwd o wallt wedi diflannu; yr oedd ei gorun yn foel, a thenau a brith oedd y twf uwch ei glustiau a thu ôl i'w ben. Go esgyrniog, bellach, yr ymddangosai'r gwddf yn y goler big, ac er bod croen ei wyneb o hyd fel croen afal, clir oedd llinellau oed neu bryder ynddo. Rhywfodd, teimlwn yn flin amdano ac yn edifar imi ei gasáu a'i anwybyddu drwy'r blynyddoedd. Penderfynais chwilio am gyfle i siarad ag ef yn ystod y dydd.

Daeth y beirniad, dyn prysur a phwysig ei ymddangosiad, i mewn ac eistedd wrth fwrdd bychan ym mhen yr ystafell. Galwodd yr ysgrifennydd yr enwau drachefn, gan orchymyn inni gymryd ein lle yn y drefn honno ar y sedd hir wrth fur chwith yr ystafell. Y tro hwn, darllenodd i lawr yn lle i fyny'r rhestr, a'm henw i oedd yr olaf ond un. Galwyd enw