Tudalen:O Law i Law.pdf/114

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

trem i lawr, ac yna'r cawr o lais yn cyhoeddi "In Memoriam ar ôl Hedd Wyn." Yr oedd taflen yr eisteddfod yn rhôl dwt yn ei law chwith, ac ar y llinell "Hunaist ymhell ohoni" caeodd ei ddwylaw am y rhaglen a'i gwasgu a'i chrafangu fel y gwelswn ddwylo fy mam am ei chadach poced pan fu farw F'ewythr Huw. Ofnwn fod Ioan Llwyd am dorri allan i wylo, ond yr eiliad nesaf, codai ei lais fel utgorn a'i law fel llaw pregethwr yn gollwng oedfa, ar y llinell "Ha frodyr! Dan hyfrydwch . . ."

"Mae o'n bechod, wyddoch chi," sibrydodd y ferch wrth fy ochr.

"Be'?"

"Adrodd y darn yma o gwbwl."

"Diar annwl, pam?"

Chwythodd yr ysgrifennydd "Sh!" ffyrnig tuag atom, a thawsom ninnau. Gwgodd y beirniad arnom.

Anniddorol fu gweddill y prynhawn. Taranodd y rhan fwyaf o'r ymgeiswyr eu teyrnged i Hedd Wyn, ac wedi i bawb adrodd, gwthiodd y beirniad bapur bach i'r ysgrifennydd. "Y mae'r tri a ganlyn i ymddangos ar y llwyfan yn yr eisteddfod heno," meddai hwnnw. "Tegwen Eryri, Ioan Llwyd ac O.P." Ac yna, ar yr un gwynt, "'Paned o de i bawb yma, yn y festri, am hannar awr wedi pedwar."

Aeth Nel a minnau allan gyda'n gilydd.

"'Ydach chi am aros i'r te yn y festri?" gofynnais.

"A finna'n byw yma! Na, yr ydw' i'n mynd adra i de."

"Lle ydach chi'n byw?"

"Tanyfron. I fyny acw ar waelod y Bwlch."

"Mi ddo' i hefo chi ran o'r ffordd, os ca' i."

Ac i ffwrdd â ni drwy ffordd gul tua'r mynydd. Cofiaf fod y gwrychoedd yn llawn blagur a'r llygaid-y-dydd yn garpedi gwynion ar rai o'r caeau. Trawai'r haul ar wyneb creigiog y Bwlch ac ar y cewri o fynyddoedd y tu ôl iddo. Yr oedd rhimynnau o eira yn aros o hyd ar y copaon.

Wedi cerdded tua hanner milltir, oedasom ar y bont garreg a groesai'r afon.

"Rhaid i chi fynd yn ôl ' rŵan," meddai'r ferch, "rhag i 'nhad eich gweld chi."

"O'r gora'. Ond be' oeddach chi'n feddwl gynna' wrth ddweud 'i bod hi'n bechod adrodd yr englynion 'na?"