Tudalen:O Law i Law.pdf/116

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

'Ddowch chi i eistadd hefo mi?"

'Fedra' i ddim, wir. Mae'n rhaid imi eistadd hefo 'nhad a 'mam."

"'Ga' i'ch gweld chi ar ôl y 'steddfod, ynta'?"

"Mi fydd hi'n hwyr iawn arnoch chi, a chitha' isio cerddad adra bob cam i Lanarfon."

"Dim ods am hynny."

"Mi fydda' i'n eistadd uwchben y cloc, yn y galeri. Mi dria' i sleifio allan cyn y diwadd. Wel, rhaid imi roi ras 'rŵan cyn i'r bobol 'na ddŵad acw i de."

Cychwynnais innau yn ôl tua'r festri, ond trois ymhen ychydig i'w gwylio'n dringo'r llwybr drwy'r caeau tua'r tyddyn gwyn ar lethr y Bwlch. Troes hithau ei phen, a chwifiais fy llaw arni. Chwifiodd hithau'n ôl.

Pan gyrhaeddais y festri, gwelwn fod twr o ymgeiswyr ar ganu ac adrodd yn ymwthio at y ddwy wraig a ofalai am y te. Cymerais innau fy lle wrth y bwrdd, a phwy a oedd wrth fy ochr ond John Lloyd. Penderfynais siarad ag ef.

"Llongyfarchiada', Mr. Lloyd."

"Y?"

Ac edrychodd tros ei sbectol arnaf.

"Llongyfarchiada' i chi."

"Am be', dywad?"

"Am gael eich dewis i'r llwyfan heno."

"'Oeddat ti'n meddwl na faswn i ddim yn cael y stage?"

"Wel, na, ond . . ."

"Ond be', os ca' i fod mor hy â gofyn?"

"Dim byd."

Euthum i eistedd i ochr y galeri yn y capel er mwyn cadw fy llygaid ar y seddau uwchben y cloc. Cyn bo hir gwelwn Nel yn dod i mewn ar ôl ei mam a'i thad, ac wedi iddi eistedd yng nghongl ei sedd, gwenodd arnaf. Dyn bychan â golwg go eiddil arno oedd ei thad, ond yr oedd ei mam yn ddynes fawr ag wyneb gwritgoch.

Araf fu'r hwyrnos honno imi, a gwrandawn ar y canu a'r adrodd a'r beirniadu ag un llygad o hyd ar y cloc ac ar yr het las yn un o'r seddau uwchlaw iddo. O'r diwedd, pan oedd y côr cyntaf yn tyrru tua'r llwyfan, gwelwn yr het las yn codi a'i pherchen yn ei gwneud hi am y drws. Gafaelais innau yn fy nghap a tharo fy nghôt tros fy mraich, a brysio