Tudalen:O Law i Law.pdf/117

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

allan. Deliais Nel ar risiau'r galeri, ac aethom i lawr a thrwy'r drws hefo'n gilydd.

Yr oedd lleuad newydd fel pe wedi ei hongian mewn coeden heb fod ymhell o'r capel, a phlethai'r cangau am berlau'r sêr. Aethom i oedi o dan y goeden honno, gan wrando ar y côr cyntaf yn canu "Yr Haf" yn yr eisteddfod.

"Yn y chwaral yr ydach chi'n gweithio?"

" Ia," atebais. "Ar y ffarm gartra yr ydach chi?"

"Na, teachio ydw' i."

"O? Ymh'le?"

"Yma, yn Llanybwlch. Uncertif."

"Be' ydi hynny?"

"Heb fod yn y Coleg. Ond mae Hywel yn mynd i'r Coleg y flwyddyn nesa'."

"Pwy ydi Hywel?"

"Fy mrawd. Mae o yn y Cownti yng Nghaernarfon ac yn eistadd 'i Higher 'leni."

"'Oes gynnoch chi frawd ne' chwaer heblaw Hywel?"

"Tri. Dafydd, newydd ddechra' yn y Cownti, a Hannah ac Ifan yn yr ysgol lle 'rydw' i . Mae Ifan yn fy nosbarth i. Cena' bach ydi o hefyd." A chwarddodd wrth feddwl am ei brawd.

Buom yno, o dan y goeden, nes i'r gynulleidfa ddechrau llifo allan o'r eisteddfod. Addawodd fy nghyfarfod yng Nghaernarfon y Sadwrn wedyn, a brasgemais innau yn hoyw a llon hyd ffordd y mynydd tuag adref.

"Mae arna' i ofn fod John 'ma mewn cariad, Robat," oedd sylw Ifan Môn droeon wrth fy nhad yn y chwarel yn ystod yr wythnos wedyn. Yr oeddwn mewn cariad, dros fy mhen mewn cariad, ac araf y llusgai traed plwm y dyddiau tua'r Sadwrn a'r siwrnai i Gaernarfon.

Safwn ar Faes y dref hanner awr cyn i fws Llanybwlch gyrraedd y prynhawn Sadwrn hwnnw. Ymunais â'r dorf fechan a glosiai o amgylch rhyw Iddew tew a werthai lestri a matiau a phob math o fanion. Galwodd ar ddeuddeg o "gyfeillion" ffyddiog i roddi benthyg ceiniog bob un iddo, ac â'm llygad ar oriawr fach aur a wnâi anrheg brydferthiawn i Nel, estynnais geiniog i'r hen fachgen gwywedig a'u casglai. Ond troi'r stori a wnaeth yr Iddew a mynd ati i werthu matiau ar uchaf ei lais. Rhyw ystryw i gadw