Tudalen:O Law i Law.pdf/118

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

deuddeg ohonom yno oedd benthyg y ceiniogau, ac ymhen tipyn, gan nad oedd gennyf ddiddordeb arbennig mewn matiau, brysiais ymaith i aros yn anniddig am y bws. Deuddeg munud eto, meddai bys araf y cloc ar lythyrdy'r Maes, a throis yn ôl at yr Iddew a'i fatiau am ychydig.

"I b'le'r awn ni?" meddai Nel, wedi iddi ddisgyn o'r bws.

"I lawr i lan y môr."

Ac i ffwrdd â ni ar draws y Maes a throi heibio i'r castell tua'r Cei. Teimlwn braidd yn yswil wrth gyfarfod un neu ddau o Lanarfon ar y ffordd, a phwy oedd wrth Bont yr Aber ond Wil Davies neu 'Wil Hen Geg', chwedl pawb yn y chwarel. Gweithiai Wil bonc yn uwch na mi, ac yr oedd ganddo athrylith hel a chario straeon i'r caban. Gwyddwn y byddai fy hanes innau drwy'r chwarel fore Llun. Ond pa wahaniaeth?

Yr oedd hi'n ddiwrnod braf, a haul y gwanwyn yn chwarae ar yr Aber ac yn ddisglair ar draethau Môn.

"Beth am fynd allan ar y cwch am awr?"

"Mi fyddai'n braf," meddai Nel.

Wedi inni eistedd yn y cwch, digwyddais daflu fy llygaid i fyny a gweld bod Wil Hen Geg a'i bwysau ar y wal uwchben. Ond syllu'n freuddwydiol i bellteroedd y môr yr oedd Wil.

Go yswil a thawedog y buaswn ar y ffordd i'r Cei, ond yn y cwch, dug atgofion am y prynhawn hwnnw ar y môr yng ngofal F'ewythr Huw wên i'm hwyneb. Gwelodd Nel y wên, a dywedais yr holl stori wrthi. Yn wir, am F'ewythr Huw y bu'r sgwrs drwy'r rhan fwyaf o'r prynhawn.

"Piti, yntê?" meddai hi yn sydyn pan oeddym bron â chyrraedd yn ôl i'r Cei.

"Be'?"

"Iddo fo farw mor ifanc."

"F'ewythr Huw?"

"Ia. 'Roeddach chi'n hoff iawn ohono fo, ond oeddach? Mae o'n swnio'n un tebyg iawn i 'nhad. Mi fedra' i ddychmygu nhad yn gwneud popeth y daru chi sôn am eich ewyrth yn i wneud. Yn enwedig colli'r rhwyf." A chwarddodd, ond gwelwn fod rhyw gysgod tu ôl i'r chwerthin.

"Be' sy?" gofynnais.