Tudalen:O Law i Law.pdf/119

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Be'?"

"'Rydach chi'n drist iawn wrth sôn am eich tad. 'Oes 'na rywbath yn bod?"

"Oes. 'Dydi o ddim hannar da. 'I galon o, medda'r doctor. Mae o yn y dre'r pnawn 'ma yn gweld doctor arall."

"O?"

Rhygnodd y cwch yn erbyn mur y Cei, a dringasom ohono a brysio i fyny'r ffordd tua'r tŷ-bwyta hwnnw lle'r aethai f'ewythr â mi ddiwrnod yr anturiaeth ar y môr. Safodd Nel yn stond yn y drws, a chydiodd yn fy mraich.

"'Nhad! " meddai, gan droi i'w gwadnu hi ymaith. Ond yr oedd hi'n rhy hwyr. Cefais gip ar rywun wrth fwrdd heb fod ymhell o'r drws yn chwifio'i law yn wyllt arnom. Yn wrid at ei chlustiau, gwthiodd Nel draw at y bwrdd lle'r eisteddai ei thad. Dilynais innau braidd yn drwsgl a phetrus, heb fod yn sicr pa un ai dianc ai aros a oedd ddoethaf.

"Be' ddeuddodd o, 'nhad?"

"Ddim llawar o ddim, Nel. Deud 'i fod o am sgwennu at Doctor Jones. Fy nghalon i'n un fawr iawn, medda' fo— "fery larch harrt.''

Cyflwynodd Nel fi i'w thad, a mynnodd yntau inni eistedd wrth ei fwrdd ef i 'gael te. Teimlwn yn yswil ac annifyr wrth siarad ag ef, a phur anesmwyth yr ymddangosai yntau. Wedi inni'n dau roi barn ar y tywydd ryw hanner dwsin o weithiau ac argyhoeddi'n gilydd o'r diwedd ei bod hi'n ddiwrnod braf, gofynnodd imi ymh'le y gweithiwn.

"Yn chwaral Llanarfon," meddwn innau, "yn y Bonc Fawr."

"'Rargian! Yn y Bonc Fawr? 'Ydach chi'n 'nabod Ifán Jones?"

"Mae o'n gweithio yn y wal nesa' imi. A fo fuo'n athro Ysgol Sul arna' i am flynyddoedd."

"Tewch, da chi! 'Ydach chi'n 'nabod Robat Davies?"

"Mi ddylwn 'i nabod o! Fo ydi 'nhad."

"Wel, 'rargian! Hogyn Robat Davies! Un o'r dynion gora' fuo' yn yr hen chwaral 'na 'rioed, 'machgan i. Deudwch wrtho fo fod Gruffydd Owan, Llanybwlch, yn cofio ato fo — Gruffydd Tanyfron, deudwch wrtho fo. 'Rargian,