Tudalen:O Law i Law.pdf/120

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hogyn Robat Davies! 'Ydach chi'n cofio'ch ewyrth, Huw Davies?"

Dywedais wrtho mai am F'ewythr Huw y buasai'r sgwrs rhyngof a Nel drwy'r prynhawn.

"Huw Ruskin," meddai yntau'n dawel â gwên ar ei wyneb.

"Y?"

Huw Ruskin oeddan ni yn 'i alw fo ym Mhonc yr Efail yn y diwadd. 'Roedd o wedi mwydro'i ben yn lân hefo llyfra' rhyw John Ruskin, yn darllan 'i weithia' fo byth a hefyd, ac yn sôn amdano fo o hyd yn y caban. Diar, 'roedd 'na ddynion nobl ym Mhonc yr Efail yr amsar hwnnw – Huw Davies, eich ewyrth; yr hen Ddafydd Ifans, 'Dafydd Bardd', chwedl ninna'; ac Wmffra Jones, y pwyswr, i enwi dim ond tri. Dynion heb 'u gwell nhw yn y byd."

A rhoes Gruffydd Owen ochenaid fawr. Gwelwn fod ei lygaid yn gwlitho wrth iddo ddilyn ei atgofion yn ôl i Bonc yr Efail, a cheisiais newid y sgwrs.

"'Rydach chi wedi troi'n ffannwr ers tipyn 'rŵan?" meddwn wrtho.

"Wedi gorfod rhoi'r gora' i'r chwaral, fachgan. Y gwaith yn ormod imi, medda'r doctor."

"Sut yr oeddach chi'n gwneud? Aros yn y Barics yn y chwaral?"

"Ia, o fora Llun tan bnawn Sadwrn. 'Ron i'n cerddad tros y mynydd i Lanarfon acw ac i'r chwaral bob bora Llun, cysgu yn y Barics bob nos drwy'r wsnos, a cherddad yn ôl adra bob pnawn Sadwrn. Ond 'rŵan, rhyw biltran o gwmpas y tyddyn acw yr ydw' i bob dydd."

A rhoes ochenaid fawr arall. Yr oedd ei galon yn y chwarel.

Diflanasai'r yswildod rhyngom: dau chwarelwr oeddym bellach, a phryderwn am na châi Nel ei phig i mewn i'r sgwrs. Sut hwyl a oedd ar hwn-a-hwn? A oeddynt yn dal i dyllu'r hen graig honno yn Nhwll Dwndwr? A oedd Robins y Stiward, yr hen gena' iddo, yn fyw o hyd? A orffennwyd torri'r lefel honno yng ngwaelod Twll Mawr? A oedd yno le gwlyb o hyd? Nid oedd diwedd ar ei gwestiynau, a cheisiais newid y sgwrs droeon er mwyn i Nel