Tudalen:O Law i Law.pdf/121

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gael cyfran ynddi. Ond pan gododd ei thad i gyfarch rhywun a adwaenai wrth fwrdd arall, sibrydodd wrthyf am ddal ati i ymgomio am y chwarel: fe wnâi fyd o les iddo, meddai, gan mai cogr-droi o amgylch ei afìechyd y buasai ei feddwl a'i sgwrs ers misoedd bellach.

Daeth Gruffydd Owcn a minnau yn gyfeillion mawr yn ystod y te hwnnw. Hoffais ef ar unwaith — dyn mwyn a thawel a chywir fel fy nhad, gŵr diffuant ym mhob gair a phob osgo. Tipyn o anturiaeth iddo oedd dyfod i lawr i'r dref fel hyn a throi i'r tŷ-bwyta am bryd o fwyd, a chasglai Nel a minnau iddo eistedd yno'n unig a thrist cyn inni ymddangos. Daethai yn syth o dŷ'r meddyg, ac ni chawsai unrhyw newydd calonogol yn y fan honno. Amheuthun iddo oedd cael cwpanaid yng nghwmni ei ferch a mwynhau sgwrs am y chwarel; yn wir, yr oedd, yn ôl Nel, yn llonnach nag y buasai ers tro byd.

Aethom ein dau gydag ef at y bws, a chynigiodd Nel droi adref yn gwmni iddo. Ond yr oedd ef yn iawn, "yn champion, hogan," a mynnodd ein gyrru ymaith i'n mwynhau ein hunain. Pan droesom i ffwrdd, gwaeddodd ar ein holau o risiau'r bws.

"Pryd ddowch chi i fyny i Lanybwlch 'cw am dro, 'machgan i? Dowch i edrach amdano' ni. Be' am y Sadwrn nesa'?" Ac addewais innau y down.

"'Fedra' i ddim dŵad dros 'nhad," meddai Nel. 'Fuo' neb mwy strict na fo 'rioed. 'Roeddwn i ofn edrach ar hogyn pan fyddai o o gwmpas, a dyma fo yn rhoi gwahoddiad i chi adra y tro cynta' iddo fo'ch cwarfod chi!"

"Mae o'n sâl isio cael hanas y chwaral," meddwn innau.

"Ac wedi cymryd atoch chi yn rhyfadd. Be' ddeudith 'mam, tybad?"

"Am be'?"

"Amdanoch chi'n dŵad acw'r Sadwrn nesa'. Ond 'does gen' i ddim ofn 'mam; ofn 'nhad fu arna' i 'rioed."

"Ac ynta'n un mor fwyn a thawel?"

"Dyna pam efalla'. Dweud y drefn y byddai 'mam ac addo rhoi cweir imi. Addo, a pheidio. Ond dim ond edrach y byddai 'nhad, ac 'roedd arna' i fwy o ofn yr edrychiad hwnnw na dim. Ofn 'i frifo fo ac ynta' mor garedig ac mor ofalus ohono' ni. Unwaith erioed y ces i