Tudalen:O Law i Law.pdf/122

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gweir ganddo fo—am ddwyn ceiniog o drôr y dresal—ond fe aeth ati mor ddifrifol nes imi gredu bod dwyn ceiniog yn bechod ofnadwy. 'Ches i fawr o gweir ganddo fo, ond yr oedd 'i ffordd o o fynd ati yn wers imi am byth. Ac mae'r plant erill yr un fath adra — mwy o ofn 'nhad o lawar nac o ofn 'mam. Ac eto, 'fuo' neb 'rioed yn fwy diniwad a thawal 'i ffordd na fo."

Daeth Nel i'm cyfarfod hyd lwybr y mynydd y Sadwrn dilynol, ac eisteddasom am dipyn ar ddarn o graig i syllu ar yr olygfa eang danom, a heulwen Ebrill yn loywder arni. Gwelem y llwybr yn troelli'n gyflym oddi tanom trwy greigiau eithinog, heibio i domenni a thyllau hen chwarel a gaewyd ers blynyddoedd, dan dderi'r gwastad uwchben Llanarfon, yna o'r golwg tros drwyn y bryn lle cysgodai'r pentref. Nofiai mwg fel tarth ysgafn uwch simneiau cudd y Llan, a thu draw iddo ymledai glesni disglair y llyn tua mynydd llwydlas y chwarel. Rhyfedd mor bell a thrist yr ymddangosai'r chwarel: a oedd ei chreigiau anferth yn synfyfyrio'n lleddf wedi holl ddoluriau'r wythnos? Ai magu ei chlwyfau yr oedd?

"'Roeddwn i'n dangos llunia' o'r Swisdir i'r plant yn yr ysgol ddoe, " meddai Nel, "ond mae'r olygfa yma mor hardd â'r un ohonyn' nhw. Mae hi'n hen bryd inni weld ein gwlad ein hunain, wyddoch chi. Edrychwch, mewn difri', ar yr haul yn taro ar yr eira sy'n aros ar y mynyddoedd acw."

Oedd, yr oedd fy ardal yn un hardd, ond ni feddyliaswn ryw lawer am ei thegwch erioed. Nac am ei hanes ychwaith. Yn yr ysgol, brenhinoedd a brwydrau Lloegr oedd o wir bwys, ac ni feddyliai'r un ohonom am holi gair am hanes Llanarfon a'r cylch. A phe gwnâi, buan y tynnid ei sylw afradlon yn ôl at Harri'r Wythfed neu Frwydr Trafalgar. Wedi'r cwbl, helyntion Harri'r Wythfed a stori Trafalgar a ddysgasai'r athro yn y Coleg, a'i waith a'i ddyletswydd oedd cyflwyno'r 'addysg' ardderchog honno ymlaen i blant Llanarfon a phob Llan arall. Yr oedd ei sefyllfa'n bur debyg i un y gŵr papur-newydd a aeth i roddi hanes rhyw gyfarfod diwygiadol. "A ydych chi wedi'ch achub?" oedd cwestiwn dwys rhyw wraig ddefosiynol a ddaeth i'w