Tudalen:O Law i Law.pdf/123

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

sedd. "Na, dyn papur-newydd ydw' i," oedd yr ateb. A chafodd lonydd wedyn.

Crwydrodd Nel a minnau yn araf o'r mynydd i Lanybwlch ac yna drwy'r caeau i gyfeiriad Tanyfron. Dywedai wrthyf fod ei mam fel petai'n paratoi gwledd i'r brenin ac wedi gorchymyn i Hannah ac Ifan, y ddau leiaf o'r plant, ymolchi'n lân a gwisgo'u dillad gorau.

"Pam yr holl ffys?" gofynnais.

"O, dim ond am fod 'nhad wedi siarad lot amdanach chi drwy'r wsnos a dweud mai fo sy wedi'ch gwadd chi acw.

'Fu 'nhad ddim hannar da yr wsnos yma, a 'synnwn i ddim nad ydi 'mam yn gwneud ffys er mwyn mynd â'i feddwl o i ffwrdd oddi wrth 'i afiechyd am dipyn."

Melys fu oedi eto ar y bont am ennyd cyn cymryd y llwybr drwy'r caeau tua Thanyfron. Yr oeddym yn agosáu at y tyddyn pan safodd Nel yn sydyn a brawychus.

"Edrychwch!" meddai. "Y cena' bach!"

Gwelwn fachgen bach yn llechu tu ôl i'r berth wrth y llidiard, fel petai'n ofni mynd i olwg y tŷ.

"Yn 'i ddillad gora' hefyd, " meddai Nel. "Mi fydd o'n 'i chael hi 'rŵan."

"Wedi syrthio i'r afon, " meddai Ifan, ei brawd saith neu wyth oed, pan ddaethom at y llidiard. "Slipio ar ryw hen garrag, Nel."

"Be' oeddat ti'n wneud i lawr wrth yr afon?"gofynnodd ei chwaer.

"Dal brithyll hefo 'nwylo. A dyma 'nhroed i . . .Ar 'rhen 'sgidia' newydd 'ma 'roedd y bai."

"Tyd i'r tŷ i newid cyn iti gael annwyd ne' rwbath gwaeth. Tyd."

Daeth ei thad i'n cyfarfod ar hyd y llwybr a redai trwy fymryn o gae o'r tyddyn. Cerddai'n araf, gan ymddangos yn llesg ac oediog.

"Ar 'r hen 'sgidia' newydd 'na 'roedd y bai, 'nhad," meddai Ifan ar unwaith.

"Dos i'r tŷ i newid. 'Faint o weithia' mae isio imi ddeud wrthat ti am beidio â mynd yn agos i'r afon 'na? Dos; brysia."

Cyfarchodd fi'n gyfeillgar a holi sut yr oedd fy nhad ac Ifan Môn. Wedyn aethom i fyny heibio i'r tyddyn a thrwy