Tudalen:O Law i Law.pdf/124

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

glwyd fechan i'r cae uwchben y tŷ. Yno, ar fin ffordd garegog, yr oedd y beudy, a dangoswyd y tair o wartheg duon imi. Nid oeddwn i yn ffarmwr nac yn fab i ffarmwr, ond ceisiais ddangos diddordeb aruthrol yn yr anifeiliaid hyn, ac yn y ddau fochyn a'r ddau ddwsin o ieir a welais ar fy ffordd yn ôl tua'r bwthyn. Cyn troi i'r tŷ, aethom i gael cip ar yr ardd fawr a ymledai tu ôl iddo. Yr oedd ynddi goed afalau a choed eirin a darn da o dir newydd ei balu a'i rychu.

"Hywel, yr hogyn hyna' 'ma sy wrthi yn yr ardd yn fy lle i 'leni, " meddai Gruffydd Owen. "Y doctor am imi beidio â straenio fy hun. Hogyn da ydi Hywel."

"Lle mae o heddiw?" gofynnais.

"Wedi mynd i chwara' football i'r ysgol," meddai Nel.

"Mae o'n chwaraewr reit dda, ac mae Dafydd, fy mrawd arall sy'n y Cownti, wedi mynd hefo fo—i weiddi tros 'i frawd, medda' fo."

Daeth Hannah Owen, mam Nel, i'r drws cefn i alw arnom i'r tŷ. Dynes fawr, wynepgoch, oedd hi, yn llawn ynni a llonder. A phan groesais y trothwy i'r gegin, gwyddwn na buaswn mewn tŷ glanach erioed. Disgleiriai'r triongl hir o ganwyllbrenni ar y silff ben tân, pob canhwyllbren loyw, o'r ddwy ochr, yn dalach na'i chymar nes i chwi gyrraedd y dalaf yn yr un ganol. Bron na loywai derw'r hen dresal Gymreig lawn cymaint â'r jygiau copr a hongiai tros ei silffoedd a thros y rhesi heirdd o blatiau gleision. Sylwais ar silff fawr y dresal — ar y Beibl mawr ar un gongl iddi a'i gas lledr yn ddigon gloyw i chwi weld eich llun ynddo, ar y botel werdd ag ynddi long yn llawn hwyliau, ar yr iâr o tsieni gwyn yn gori ar ryw ddwsin o wyau ffres bob dydd, ar y cadi te â llun y Frenhines Victoria arno, ac ar y bowlen fach bres a ddaliai dusw o friallu newydd eu casglu o'r cloddiau.

"Dyma Hannah," meddai Nel, gan gyfìwyno merch fach ryw ddeg oed imi. Merch fawr, yn hytrach, oherwydd yr oedd Hannah yn debyg i'w mam ac yn addo tyfu'n glamp o hogan. Prydwedd ei mam a oedd ganddi hefyd — wyneb mawr, gwritgoch; llygaid duon, duon; gwefusau llon, chwareus; talcen uchel, llydan; gwallt du fel y frân. Sylwais ar unwaith ar y gwahaniaeth rhyngddi hi a Nel.