Tudalen:O Law i Law.pdf/128

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

VII—Y LLIAIN

Yr oedd Ella newydd orffen golchi llestri'r te pan ddaeth ei mam i mewn.

"'Rydach chi'n ôl yn gynnar, Meri Ifans," meddwn.

"Ydw'. Mi gês i fws handi iawn yn f'ôl. 'Roedd o'n aros reit o flaen tŷ fy nghnithar, a phan gyrhaeddis i'r groesffordd, dyna lle'r oedd y bws o Gaernarfon yn aros imi . . . 'Roes Ella ddigon o de i chi John Davies?"

"Do, wir, a thamaid o ginio reit flasus."

"Dos di adra 'rŵan, Ella," meddai wrth ei merch. "Dos i ofalu am swpar-chwaral Jim. Mi wyddost fel y mae o bron â llwgu pan ddaw o adra o'r gwaith."

"Gwn yn iawn, ac os na fydd y bwyd yno ar y bwrdd o'i flaen o, mi fydd yn well ganddo fo lwgu na pharatoi dim iddo fo'i hun."

"'Roist ti de i Wil?"

"Do, y mwnci bach iddo fo."

"Be' mae o wedi'i wneud 'rŵan?"

"'Roedd o'n llwch blawd i gyd yn dŵad adra o'r ysgol. Ned Stabal yn cario sachaid o flawd ar gefn y gasag o'r