Tudalen:O Law i Law.pdf/130

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"'Ydw' i ddim yn siŵr, ond mae gen' i ryw go' iddi 'i gael o gan 'i meistres cyn priodi."

"Pan oedd hi'n gweini yng Nghaernarfon?"

"Ia, os ydw' i'n cofio'n iawn. Mi glywais i hi'n dweud droeon'i fod o'n rhy fawr i fwrddy gegin, ac mi fuo'n bygwth 'i dorri o'n ddau. Ond 'wnaeth hi mo hynny; 'roedd hi'n biti 'i sbwylio fo, medda' hi."

"Pwy fasai'n 'i brynu o, tybad? Gwraig y Person, 'falla'. 'Wyddoch chi be', mae o bron yr un fath yn union â'r lliain Cymundeb sy yn y capal, ond bod hwnnw wedi mynd yn dena' ac wedi dechra' raflio. Diar, fel y byddai'ch mam druan yn 'i olchi o ac yn 'i smwddio fo bob yn ail Cymundeb! Mor ofalus y byddai hi!

"'Roeddach chi'n dweud bod hwnnw'n mynd yn dena' ac yn dechra' raflio, Meri Ifans?"

"Ydi, ers tro bellach. Ond be' arall sy i'w ddisgwyl?

Mae o gynno' ni yn y capal ers — O, ers tros ddeng mlynadd.

Mi fuo'ch mam yn hynod ofalus ohono fo, ond 'does dim disgwyl i liain bara am byth."

"'Wnâi hwn y tro, Meri Ifans?" "I'r Cymundeb? 'Rargian fawr, gwnâi. Ond . . , "

"Mi ro' i o i'r capal. Mi wn y basai 'mam yn licio hynny."

"Mi fydd Ifan Jones wrth 'i fodd. Ond 'ydach chi'n siŵr . . .? "

"Ydw'."

Aeth Meri Ifans i'r llofft yn fuan wedyn, a gadael y lliain gwyn ar silff y dresel. Ia, ei roi i'r capel a wnawn, er cof am fy mam, er cof am Mr. Jones y Gweinidog—er cof am Twm Twm. A ffrydiodd atgofion i'm meddwl, am y Cymundeb, am Mr. Jones — ac am Twm Twm.

Y mae'n rhaid imi gyfaddef mai testun chwerthin gogleisiol oedd y Cymundeb imi pan oeddwn i'n hogyn. Fy nhad ac Ifan Jones, un bob ochr i'r capel, a ddygai blât arian y bara a chwpan arian y gwin o amgylch y seddau. Yr oedd traed Ifan Môn yn rhai trymion iawn, a'i esgidiau Sul yn gwichian fel y camai'n araf o sedd i sedd; rhoddai ei bwys hefyd ar ben y sedd a gwyro ymlaen fel petai'n gofalu na chymerai un o'r cymunwyr fwy na'i siâr o'r bara ac o'r gwin. Ymsythai ennyd wedi derbyn y plât neu'r cwpan yn ôl, ac yna torrai gwich ingol yr esgidiau ar y