Tudalen:O Law i Law.pdf/132

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

sôn imi fod yn cynorthwyo fy nhad ac Ifan Jones i redeg dŵr i'r fedyddfa.

"'Ydi hi'n ddofn iawn?" gofynnodd Defi.

"At dy 'sgwydda' di, was," meddwn innau.

"Tyd draw imi gael 'i gweld hi."

Ac i ffwrdd â ni i'r capel. Safodd Defi yn synfyfyriol ar fin y 'seston', ac eisteddais innau ar sedd Mr. Jones y Gweinidog.

"Dew, mae hi'n edrach yn oer, 'achan," meddai Defi, a phenliniodd i roi ei fys yn y dŵr.

Codais innau a mesur â'm llygaid y ffordd o ymyl y sedd dros y fedyddfa i'r rhimyn llawr dan ganllaw'r pulpud.

"Mi fedra' i neidio tros hon," meddwn.

"Hy, medri ar dy dafod."

"Oreit, 'ta'." A rhoddais naid o fin y sedd tros y dŵr, gan gydio'n dynn yn rheilen y pulpud yr ochr arall.

"Dyna fo iti. Mi fetia' i na fedri di ddim."

Os medrwn i, fe fedrai Defi, a safodd wrth ymyl sedd y pregethwr yn ystum un a oedd ar fin neidio, nid yn unig tros y dŵr, ond tros ganllaw'r pulpud a thros y seddau oll i ben arall y capel. Poerodd ar ei ddwylo, taflodd un golwg i'r dŵr oddi tano, ac yna neidiodd. Cyrhaeddodd ei draed yr ochr arall yn ddiogel, ond yn anffodus, ni chydiodd ei ddwylo yn y ganllaw, a syrthiodd yn ôl ar ei gefn i ddŵr y fedyddfa. Yno y sblasiai ac y tagai pan ddaeth Ifan Môn i mewn i gloi'r capel; gwadnodd Defi hi am ei fywyd, gan adael ei ôl dyfrllyd ar lawr y festri.

Ni chefais i fy medyddio nes oeddwn tros ddeunaw oed. Ar waethaf cymhellion aml Ifan Môn, dal i ohirio'r dydd a wnawn, a chwarae teg iddo, gadawai fy nhad fi'n llonydd. Ni soniodd Mr. Jones air wrthyf ychwaith, ac nid edrychai'n achwynol i'm cyfeiriad pan fedyddiai eraill. Yr oeddwn i'n meddwl y byd o Mr. Jones; ef oedd fy arwr er pan oeddwn yn hogyn bach. Pan alwai ar fy nhad ynglŷn â rhyw fater ariannol yn y capel, neu pan ddeuai i chwarae draughts hefo'm Hewythr Huw, gwyliwn bob ystum ac osgo o'i eiddo a daliwn ar bob gair o'i enau. "Un o'r dynion nobla' "oedd disgrifiad cyson F'ewythr Huw ohono ac nid gwiw i neb ddweud gair yn ei erbyn yn ein tŷ ni. "Gwyn eu byd y rhai pur o galon," oedd ei destun y nos Sul ar ôl