Tudalen:O Law i Law.pdf/135

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gwisgai Twm Twm fel cardotyn, ac ni phoenai am eillio 'i wyneb ond rhyw unwaith bob wythnos. Câi rodd o gôt neu drowsus neu wasgod neu gap gan rywun byth a hefyd, ac ni welid neb yn y pentref â chymaint o amrywiaeth yn ei wisg. Ond er ei holl wendidau, yr oedd Twm Twm yn hoff gan bawb, yn arbennig gan blant a chŵn yr ardal. Rhoddai gwraig Siop y Gongl ddyrnaid o dda-da iddo bron bob dydd, ac âi Twm Twm am dro damweiniol i fyny'r Stryd Fawr pan âi'r plant i'r ysgol a digwydd iddo gofìo bod ganddo dda-da yn ei boced. Llanwai ei bocedi eraill â darnau o gig a mân esgyrn, ac ysgydwai pob ci ei gynffon pan welai Twm Twm yn agosáu. A'r ystabl tu ôl i Siop y Gongl oedd meddygfa ymlusgiaid ac ehediaid; yno y dygai plentyn gi â draenen yn ei bawen, neu lyffant â'i droed yn gwaedu, neu aderyn â'i adain yn friw.

Achosodd ymddangosiad Twm Twm yn sedd olaf y capel, un nos Sul, gyffro mawr. Prin y credai Ifan Jones ei lygaid ei hun, pan gododd i ganu ac i wynebu'r gynulleidfa, a daliai i rythu'n syn o'i lyfr emynau i gyfeiriad y dieithryn. Ni chreasai ymweliad y Gŵr Drwg ei hun fwy o syndod, a throai aml un ei ben yn ystod y gwasanaeth, yn arbennig yn ystod y weddi, i edrych a oedd Twm Twm yno o hyd. A phan ddychwelodd Dafydd Owen i'r sêt fawr hefo'r casgliad, tafìodd Ifan Môn olwg pryderus i'r blwch. Yr unig un na chymerai ddiddordeb o gwbl yn yr ymwelydd annisgwyl oedd William Preis, y barbwr, a sleifiodd i mewn i'r un sedd yn ystod yr emyn cyntaf; yn ôl y rhai a eisteddai yng nghefn y capel, ymwthiodd William Preis i ben arall y sedd gan anwybyddu'n llwyr un o'i gymdeithion yn y Red Lion.

Pe digwyddai rhyw ddieithryn fod yn y capel, y mae'n sicr y credai mai pregethwr a gyrhaeddodd yn o hwyr, ac a lithrodd yn ddisylw i'r sedd gefn rhag creu cynnwrf, a eisteddai yn y sêt. Oherwydd yr oedd gwisg orbarchus am gorff tenau Twm Twm, côt a gwasgod ddu hynod hen-ffasiwn, trowsus llwyd-olau, coler big a ffrynt eang ynghlwm wrthi, a thei du anferth ag ynddo bin a ryddhâi ddisgleirdeb gemau lawer. Y mae'n wir na ffitiai'r dillad fel y dylent, bod y goler lawer yn rhy fawr i'r gwddf esgyrniog ac y mynnai'r ffrynt galed blygu ac ymwthio allan o'r wasgod,