Tudalen:O Law i Law.pdf/138

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Quite, ac mae'r hen gapel isio'i beintio ers tro. Ond mae 'na un peth sy'n poeni tipyn arna' i, Robert Davies, yn worry mawr imi."

"Be' ydi, hwnnw Miss Hughes?"

"Y Tom Tom 'na sy'n dŵad i'r capel ar nos Sul."

"Ydi, mae'r peth yn worry mawr imi. 'Dydw' i ddim yn licio 'i weld o yno at all."

"O?"

"Ac mae eisio i rywun ddweud wrtho fo am beidio â dŵad yno, Robert Davies."

"O?"

"Meddwl yr oeddwn i na fasai Anti Edith druan ddim yn licio imi roi hundred pounds o'i harian hi i'r capel a phobol fel'na yn dŵad yno i amharchu'r lle."

"O?"

"Ac 'roeddwn i'n meddwl hefyd, Robert Davies, mai chi ydi'r dyn gora' i fynd at y Tom Tom 'na a siarad hefo fo."

"O? "

Yr oeddwn i a'm mam yn adnabod fy nhad yn ddigon da i wybod bod huodledd ysgubol yn yr unsillafau hyn. Ofnem glywed y dicter cudd yn ffrwydro.

"'Roeddwn i'n siarad wrth Mrs. Howells y Bank am y peth gynna', ac 'roedd hitha' yn teimlo yr un fath, you know, Robert Davies."

Gwelwn fy nhad yn codi i roi pwniad i'r tân, peth anghyffredin iawn iddo ef ei wneud. Fel rheol, gallai'r tân fynd allan ar ddim a wnâi ef iddo, a haerai fy mam mai'r ffordd orau i ddiffodd tân oedd rhoi fy nhad i eistedd wrtho.

"Wel, Miss Hughes, " meddai, wedi dychwelyd i'w gadair, "mae'r hen Dwm Twm yn ddigon diniwad."

"Drunkard, Robert Davies, drunkard. Scamp a dim arall."

"Ond pa ddrwg mae o'n 'i wneud yn y capal, Miss Hughes? 'Fedra' i ddim gweld bod . . . . "

"Drwg! Neithiwr ddwytha' yr oeddwn i'n meddwl am y dynion noble oedd yn y capel pan on i'n hogan—llond y sêt fawr ohonyn' nhw — Richard Evans, Edward Jones, yr hen Robert Owen, David Lloyd. Be' fasa' nhw'n ddweud? 'Ro'n i'n meddwl be' fasa' father druan yn 'i ddweud. Mae'r