Tudalen:O Law i Law.pdf/140

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cysegredig, yn ymgorfforiad o ddioddefaint pob gwrthodedig, ac ymhell cyn iddynt gyrraedd y bonc, yr oedd fy nhad ac Ifan Môn yn barod i gael eu llosgi wrth y stanc tros y truan dirmygedig hwn. Ac ar eu ffordd adref o'r chwarel, daliai fflam eu sêl; yr oeddynt o hyd, pe deuai'r gofyn, yn barod i farw trosto. Llymeitian yn hamddenol a phoeri sug baco i ddysglau-blawd-llif y Red Lion, heb wybod dim am y cynnwrf a'r huodledd hwn, a wnâi Twm Twm.

Ymunodd Mrs. Howells y Banc a gwraig arall o'r enw Susan Jones ym mhrotest Rosie Hughes, ac arhosodd y tair o'r capel am ddau Sul Rhywfodd neu'i gilydd, daeth Twm Twm i wybod am y terfysg a achosai, a diflannodd yntau'n llwyr o gyffiniau'r addoldy a dychwelyd i'w garpiau ac i gwmni Capten, ceffyl Siop y Gongl, ar nos Sul. Ac yna, yn sydyn hollol, bu farw Twm Twm.

Cofiaf y bore Sul hwnnw'n dda. Edrychai Mr. Jones, wrth iddo ddringo i'r pulpud, yn llwyd a lluddedig, ac ymddangosai yn bell a breuddwydiol yn ystod ei bregeth. Byr iawn oedd yr oedfa, a throes fy nhad a minnau tuag adref yn dyfalu beth a oedd yn poeni'r gweinidog. Goleuwyd ni yn fuan iawn, oherwydd galwodd Cadi Roberts cyn cinio i weld fy nhad. Dywedodd i Twm Twm gael ei daro'n wael y noson gynt, ac i Mr. Jones fod wrth erchwyn ei wely trwy'r nos yn ei gysuro ac yn gweinyddu arno. Cysgodd Twm Twm ryw ychydig yn y bore bach, ond agorodd ei lygaid i weld goleuni cyntaf y wawr, ac yna eu cau am byth. Mynnai Mr. Jones, meddai hi, dalu holl dreuliau'r cynhebrwng a'r claddu, ac aethai ati y bore hwnnw i ofalu am yr holl drefniadau.

Yr oedd hi'n Gymundeb y nos Sul honno, a dyna'r tro cyntaf i'r ddefod olygu rhywbeth mewn gwirionedd imi. "Cyfaill publicanod a phechaduriaid" oedd testun pregeth Mr. Jones, a chrynai rhyw drydan trwy dawelwch dwys ei lais. "Dim llawar o bregethwr" oedd y farn gyffredin amdano, ac y mae'n debyg fod gwir yn y ddedfryd. Dilynai ei nodiadau'n rhy fanwl, a phetrusai beunydd, fel petai'n ymbalfalu am eiriau. Ond y nos Sul honno, ni phetrusai ddim, ac ni phoenai am ei nodiadau. Prin y credem, wrth glywed yr huodledd syml o'i enau ac wrth weld fflach y dicter dwyfol yn ei lygaid, mai Mr. Jones a bregethai. Diolchodd Rosie Hughes yn fawr iddo ar ôl y gwasanaeth; ni chlywsai hi well pregeth erioed.