Tudalen:O Law i Law.pdf/142

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

VIII—LLYFRAU

Galwodd Llew Hughes yn gynnar gyda'r nos ar ei ffordd adref o'r stesion. Clerc yn yr orsaf yw Llew, ac ef sy'n canu'r organ yn y capel. Y mae'n fachgen byw ei feddwl ac yn ddarllenwr mawr. "Yr hen lyfra' 'na," medd ei fam, gweddw unig y bu Llew yn gefn iddi ers blynyddoedd bellach, a'i gorfu i wisgo sbectol ac a wnaeth ei wyneb mor llwyd a thenau. Llew yw ysgrifennydd dosbarth y W.E.A. hefyd, a heb ei ynni ef prin y byddai dosbarth felly yn yr ardal. Ef, beth bynnag, a'm perswadiodd i i ymuno ag ef ac i gymryd rhyw ddiddordeb mewn llenyddiaeth Gymraeg. John Ellis, gweinidog yr Annibynwyr yn Llaneithin, pentref ryw bum milltir i ffwrdd, yw'r athro, ac yn wir, y mae'n ŵr galluog a brwdfrydig iawn. Trueni na fuasai dosbarth fel hwn pan oedd F'ewythr Huw yn fyw; gwn y mwynhâi ef bob eiliad ohono. Go lastwraidd ydym ni yn y dosbarth, y mae arnaf ofn; rhyw ddwsin sy'n mwynhau'r ddarlith a'r ymgom ar ei hôl ac yna'n troi adref i anghofìo popeth a ddysgodd Mr. Ellis inni. Go ddienaid yw'r sgwrsio ar ôl y ddarlith yn bur aml, a pha beth bynnag fo testun y darlithydd, mynn Owen Davies, hen frawd